Yr hyn rydym ni´n ei wneud



Brandio Strategaeth

Daw brandio effeithiol o strategaeth effeithiol. Dyma pam y byddwn yn cychwyn drwy fynd reit o dan groen eich sefydliad. Mae angen i ni wybod i ble´r ydych eisiau i´r busnes fynd, gyda phwy rydych yn cystadlu, i bwy rydych yn gwerthu, y sialensiau sy´n eich wynebu, cymeriad unigryw eich busnes, lliw eich sanau… wel, efallai nad lliw eich sanau yn union, ond rydyn ni´n procio´n eithaf dwfn!

Trwy ddeall hanfod eich busnes, byddwn yn gallu datblygu brand sydd ag ystyr, sydd yn ei dro´n eich rhoi mewn sefyllfa gref yn y farchnad fel eich bod yn gallu symud eich busnes yn ei flaen. Gall y broses fod yn dipyn o her, ond mae´n hanfodol os yw eich brand yn bwysig i chi. Ac rydym yn addo eich trin yn dyner.

  • Adolygu Brand
  • Saernïaeth y Brand
  • Gwaith Ymchwil
  • Ymgynghori
  • Dadansoddi´r Farchnad
  • Dadansoddi eich Sefyllfa
  • Enwi´r cynnyrch a´r gorfforaeth
  • Cynllun Penodedig y Brand
  • Canllawiau am y Brand
  • Lansio´r Brand
  • Strategaeth Gyfathrebu
  • Cynllunio a Phrynu Cyfryngau
  • Negeseuon a Chanllawiau Ieithyddol
  • Rheoli unrhyw Newid yn y Brand