Ymgynghori

Rydym yn cynnig gwasanaeth ymgynghori ar ei ben ei hun, sy’n cynnwys brandio, marchnata a strategaeth datblygu busnes, gan roi cyngor a rhannu’n harbenigedd â’n cleientiaid ar brosiect neilltuol, neu drwy drefniant parhaol. Mae’r ymagwedd ymarferol hon yn ein galluogi i sicrhau bod y datrysiadau dylunio a ddatblygir gennym yn cyflawni amcanion busnes tymor hir ein cleientiaid yn ogystal â’u hanghenion marchnata ar y pryd.

Mae’n anochel y bydd angen rhywfaint o ymgynghori ar gyfer pob darn o waith a gymerwn, gan ein bod bob amser yn ceisio canfod yr atebion mwyaf effeithiol a chost-effeithlon i heriau ein cleientiaid.