Mae Dewi Sant yn ddatblygiad newydd cyffrous sydd ar ddod i Brifddinas Cymru. Pan fydd y datblygiad yn agor yn 2009. Bydd yn gwella’r cyfleusterau siopa a byw presennol yng Nghaerdydd.
Y cynllun yw’r buddsoddiad ariannol preifat mwyaf yng Nghymru hyd yma, ac mae’n un o’r datblygiadau pwysicaf yn ninasoedd y DU heddiw. Mae’n adeiladu ar asedau presennol, gan gynnwys Canolfan Siopa bresennol Dewi Sant, a rhan helaeth o’r Aes. Bydd y cynllun yn trawsnewid ochr ddeheuol y Ddinas ac yn adfywio ardal sy’n cael ei thanddefnyddio ar hyn o bryd drwy greu gofodau cyhoeddus deniadol a diogel y gall pobl eu mwynhau, ochr yn ochr â gofod adwerthu cyfoes cyffrous sy’n cyflenwi anghenion siopwyr yr unfed ganrif ar hugain.
Mae Stills wrth eu bodd o gael eu dewis gan Dewi Sant i ddarparu cefnogaeth farchnata hanfodol er mwyn helpu i gyfleu manylion a phwysigrwydd y prosiect, a’r hyn y mae’n ei olygu i Gaerdydd, y gymuned leol a’r gymuned ehangach. Yn ôl Rheolwr Gyfarwyddwr Stills, Chris Carpenter, “Mae Dewi Sant yn nodwedd amlwg ar orwel Caerdydd, does yr un datblygiad mwy o’i fath yng Nghymru ac rydym yn hynod falch o fod yn gysylltiedig ag o. Mae’r gwaith wedi bod yn llawn her, yn enwedig cynhyrchu a gosod cannoedd o fetrau o waith graffeg dros y byrddau gwybodaeth”.
Mae Stills wedi bod yn gyfrifol am ddatblygu delwedd unigryw Dewi Sant a chymhwyso hynny i fyrddau gwybodaeth, llecynnau arddangos a chyflwyniadau amlgyfrwng. Ychwanega Chris “mae’r prosiect yn dechrau prysuro ac mae cymaint ar ôl i’w wneud. Mae prynwyr yn awchus am yr wybodaeth ddiweddaraf, a rhan o’n gwaith ni yw cefnogi tîm Dewi Sant drwy ddarparu’r wybodaeth honno”.
Yn ôl llefarydd ar ran Dewi Sant “mae’r datblygiad yn ganolog i ddyfodol Caerdydd am nifer o resymau. Bydd y datblygiad yn dod â buddsoddiad sylweddol i’r ardal, ochr yn ochr â John Lewis, sy’n agor eu siop gyntaf yng Nghymru drwy Ganolfan Dewi Sant. Rydym hefyd yn gobeithio sicrhau nifer o adwerthwyr a fydd yn agor siopau yn y ddinas am y tro cyntaf. Ochr yn ochr â datblygiadau eraill graddfa fawr yn y Brifddinas, mae Dewi Sant yn cynnig cyfle anhygoel i gyfrannu tuag at ddyrchafu Caerdydd i fod yn un o brif gyrchfannau Ewrop. Mae Stills wedi chwarae rhan bwysig drwy ein cefnogi ni i gyfleu manylion y prosiect i drigolion Caerdydd a Chymru”.