Wythnos diwethaf, bu Chris yn helpu i feirniadu´r gwobrau cynllunio mewnol Mixology North. Ac roedd mewn cwmni disglair ymysg rhai o bobl fwyaf profiadol cwmnïau Pensaernïaeth a Dylunio blaenllaw:
Mick Jordan o Mix Interiors
Diana Monkhouse, Uwch Bartner yn Swanke
Simon Jackson, Partner yn Gensler
Andrew Bartlett, Cyfarwyddwr yn Tilney Shane
Gurvindr Khurana, Cyd berchennog Essentia
Bronte Turner, Pennaeth Cynllunio Mewnol yn HLW
Chris Carpenter, Cyfarwyddwr yn Stills
Roedd lefel yr ymrwymiad yn y broses feirniadu´n anhygoel ac eto, bu´n llawer o hwyl gyda chriw gwych o bobl. Cynhaliwyd trafodaeth drylwyr am haeddiannau´r amrywiol ymgeiswyr.
Gwnaeth Mick o Mix waith da´n trefnu´r diwrnod ar gyfer y beirniaid yna gadael i´r panel fwrw ‘mlaen â´r trafodaethau a´r penderfyniadau. Ac mae´n siŵr bydd rhai o´r penderfyniadau hynny´n ddadleuol.
Rhaid rhoi cydnabyddiaeth arbennig i Orangebox am eu croeso hyfryd.