Mae´n falch iawn gan Stills gyhoeddi i ddau o´n prosiectau dderbyn gwobr yng Ngwobrau Dylunio Cymru 2011.
Gwnaeth Serennu, sef prosiect brandio mewnol ar gyfer ysbyty i blant, ennill un o´r gwobrau. A gwnaeth Dere Am Dro, detholiad o straeon ar gyfer Cyngor Pen-y-Bont ar Ogwr a ysgrifennwyd ac a ddarluniwyd gan dîm Stills ennill yr ail wobr. Roedd ein gwaith brandio ar gyfer Bolin Webb a Gardners hefyd ar restr fer y gwobrau. Ymysg y beirniaid roedd y dylunwyr eiconig David Worthington (cyn Rheolwr Gyfarwyddwr Conran) a Richard Seymour (o Seymourpowell) yn ogystal â Glenn Tutsell (The Brand Union).
Cynhaliwyd y Gwobrau yn y Gyfnewidfa Lo yng Nghaerdydd nos Wener a chafodd pawb noson wych. Edrychwch ar luniau o´r noson.