Llwyddiant! Gwnaeth tîm Stills seiclo Taith Taf ar ddydd Sadwrn, 8fed o Hydref (rhai yn gynt nac eraill!) ond gwnaeth pawb gwblhau´r daith.
Gan gychwyn yn Aberhonddu mae Taith Taf yn cynnwys 57 milltir o fynyddoedd, cronfeydd dŵr, ffyrdd, trefi, pentrefi a fforestydd cyn terfynu ym Mae Caerdydd.
Y bwriad oedd codi arian ar gyfer y St David´s Foundation, sydd wedi darparu gwasanaeth hosbis yn y cartref yng Nghasnewydd, Torfaen, Caerffili a Sir Fynyw ers dros 32 mlynedd. Yn ogystal â´r ardaloedd yma, mae gan yr elusen hosbis dydd, Usk House, yn Aberhonddu. Y llynedd buont yn gofalu am dros 3,000 o gleifion oedd yn wynebu salwch sy´n bygwth bywyd, yn ogystal â darparu cefnogaeth barhaol i deuluoedd a gofalwyr. Mae nyrsys y St David´s Foundation yn gofalu am dros 1,000 o gleifion ar unrhyw adeg. Mae´n costio £5 miliwn y flwyddyn i ddarparu´r gwasanaethau, ond maen rhad ac am ddim i´r cleifion.
Er ein bod bellach wedi cwblhau´r daith, mae dal cyfle i´n noddi drwy´r dudalen Just Giving: http://www.justgiving.com/Shelley-Rocke