Yn ddiweddar, enillodd Stills gytundeb i ddatblygu gwefan arbennig i Gymru ar ran yr elusen genedlaethol Gweithredu dros Blant . Bydd y wefan ddwyieithog yn targedu pobl yng Nghymru er mwyn codi ymwybyddiaeth ynglŷn â’r elusen a darparu gwybodaeth ranbarthol er mwyn helpu’r elusen i ymgysylltu’n fwy effeithiol â darpar gefnogwyr a noddwyr yn y dywysogaeth.
Yn ôl David Lea, Cyfarwyddwr Creadigol yn Stills “rydym yn edrych ymlaen i weithio gyda’r tîm Gweithredu dros Blant ar y prosiect hwn. Yn dilyn ein gwaith diweddar i ail-frandio elusen leol Tŷ Hafan, bydd ein dealltwriaeth o’r sector elusennau yng Nghymru’n cyfrannu’n helaeth tuag at ein gallu i helpu Gweithredu dros Blant i ymgysylltu’n fwy llwyddiannus â’r gynulleidfa Gymreig”.