Mae ymgyrch farchnata arloesol gan Stills ar gyfer Hayes Apartments yng nghanol dinas Caerdydd wedi cael ei chynnwys ar restr am wobr nodedig.
Mae’r ymgyrch integredig yn cynnwys amrywiaeth o ddulliau i gyfathrebu a rhyngwynebu â chleientiaid, gan gynnwys llawlyfrau marchnata a deunydd darllen, hysbysebu mewn print a thacsis wedi’u gorchuddio â hysbysebion, ynghyd ag Ystafell Gwerthu a Marchnata yn 54, Ffordd y Santes Fair sy’n rhoi cipolwg ymlaen llaw i ddarpar brynwyr o’r datblygiad preswyl unigryw. Cafodd holl elfennau’r ymgyrch eu llunio’n ofalus gan Stills i greu argraff drawiadol a chyson o nodweddion unigryw’r rhandai newydd hyn yng nghanol y ddinas.
Mae ymgyrch gyfannol Stills wedi cael ei chynnwys ar restr fer i ennill Gwobr Gŵyl Ddylunio Caerdydd ac eisoes wedi cael ei dewis i’w chynnwys yn rhan o arddangosfa deithiol yr ŵyl, a fydd yn dechrau yn y brifddinas, cyn teithio ar draws Ewrop.
Yn ôl Rheolwr Gyfarwyddwr Stills, Chris Carpenter: “Roedd hi’n bwysig i ni ddylunio gofod a oedd nid yn unig yn ymarferol fel ystafell farchnata, ond a oedd hefyd yn dangos elfen o ‘waw ffactor’ i ddenu pobl i mewn a’u cyffroi ynglŷn â’r ffordd o fyw a oedd yn gysylltiedig â Hayes Apartments. Er mwyn cyflawni’r nod hwnnw, roedd angen iddo fod yn wahanol i unrhyw beth arall o’i amgylch a dyna’r union beth a gyflawnwyd gennym.”