Mae Stills wedi cael eu penodi i lansio cadair newydd ddeniadol a ddyluniwyd ac a gynhyrchwyd gan Broadstock Furniture, cwmni sy’n gweithredu ym Macclesfield. Mae’r prosiect yn cynnwys enwi, brandio, hysbysebu a marchnata’r cynnyrch ac ymgyrch cysylltiadau cyhoeddus, yn ogystal â rheoli holl weithgareddau’r lansiad. I gyfateb â phenderfyniad y sefydliad i symud tuag at ymagwedd gynhyrchu sy’n fwy seiliedig ar ddylunio, mae Stills hefyd wedi ail-ddylunio hunaniaeth brand Broadstock.
“Mae’r cynnyrch newydd hwn yn gam arwyddocaol ymlaen i Broadstock, felly bu’n rhaid symud hunaniaeth gorfforaethol y brand hefyd yn ei blaen i adlewyrchu’r newidiadau sy’n digwydd yn y busnes. Mae cyfres newydd Broadstock o seddau amlbwrpas cyfoes yn cael eu cynhyrchu mewn modd unigryw drwy ddefnyddio ffrâm bolymer blastig wedi’i hatgyfnerthu â gwydr, sy’n golygu ei bod nid yn unig yn hynod ysgafn, ond hefyd yn eithriadol o gryf. Rydym yn bwriadu datblygu ymgyrch sy’n seiliedig ar y nodweddion unigryw hyn ac sy’n tynnu sylw at ragoriaeth y gadair” medd Chris Carpenter, Rheolwr Gyfarwyddwr Stills. “Rydym yn datblygu syniadau cyffrous iawn ar hyn o bryd ac yn edrych ymlaen i lansio’r gadair yn nhymor y gwanwyn 2009”.
Ewch i wefan bwrpasol Dodrefn Stills
Ewch i wefan Broadstock