Y diweddaraf


Beirniadu gwobrau Mixology North

Chris yn helpu gyda´r beirniadu yng ngwobrau cynllunio mewnol Mixology North
Wythnos diwethaf, bu Chris yn helpu i feirniadu´r gwobrau cynllunio mewnol Mixology North. Ac roedd mewn cwmni disglair ymysg rhai o bobl fwyaf profiadol cwmnïau Pensaernïaeth a Dylunio blaenllaw darllen mwy


Gwobrau Dylunio Cymru 2011

Gwobr fawreddog i Stills yng Ngwobrau Dylunio Cymru 2011
Mae´n falch iawn gan Stills gyhoeddi i ddau o´n prosiectau dderbyn gwobr yng Ngwobrau Dylunio Cymru 2011. darllen mwy


Stills yn taclo Taith Taf

Llwyddiant! Gwnaeth tîm Stills seiclo Taith Taf ar ddydd Sadwrn, 8fed o Hydref (rhai yn gynt nac eraill!) ond gwnaeth pawb gwblhau´r daith. darllen mwy


Gŵyl Dylunio Caerdydd 2011

Stills ar restr fer y gwobrau dylunio
Mae cyffro mawr ym mhencadlys Stills gan fod pedwar darn gwaith ar restr fer Gwobrau Gŵyl Dylunio Caerdydd. darllen mwy


Connection

Gwefan symudol Connection yn mynd yn fyw
Rydym newydd gwblhau gwaith ar fersiwn ffonau symudol gwefan Connection – mae wedi mynd yn fyw heddiw, a gallwch ei weld yma: m.connection.uk.com darllen mwy


Serennu

Y Prif Weinidog yn agor Serennu
Cynhaliwyd lansiad swyddogol Serennu, sef y ganolfan driniaeth ar gyfer plant anabl, ar ddydd Gwener, 2il Medi. Roedd Carwyn Jones, Prif Weinidog Llywodraeth Cymru wrth law i dynnu´r cordyn ynghyd â chynrychiolwyr eraill o´r llywodraeth gan gynnwys y Llywydd, Rosemary Butler a Paul Flynn AS. darllen mwy


Stills

Digwyddiad Wayne Hemingway
Pleser mawr oedd croesawu Wayne Hemingway i ddigwyddiad brecwast arbennig fis diwethaf mewn cyswllt â Rhwydwaith Busnes yr M4 ar Gampws Canol y Ddinas newydd Prifysgol Casnewydd. darllen mwy


Taith feiciau i elusen

Chris ‘fest melyn’ Carpenter wrthi’n hyfforddi
Ar Ddydd Sul Ebrill 3ydd, bydd Rheolwr Gyfarwyddwr Stills, Chris Carpenter, yn seiclo oddeutu 260 o filltiroedd o Ogledd Cymru i Dde Cymru, gyda 19 aelod o fusnesau Cymreig lleol i godi arian i elusen. darllen mwy


Gardners

Hunaniaeth eiconig newydd i Gardners
Mae Gardners yn gwmni argraffu digidol fformat mawr yng Nghaerdydd sydd â chleientiaid rhyngwladol sy’n cynnwys Tesco, JCDecaux, BP a Microsoft. Mae Gardners yn gwmni profi beta i HP ac mae’n un o’r cynhyrchwyr mwyaf blaengar yn y sector argraffu, sy’n gwthio ffiniau technoleg drwy’r amser i greu ffyrdd newydd o weithio yn y diwydiant. darllen mwy


Action for Children - Gweithredu dros Blant

Stills yn helpu elusen genedlaethol i ymgysylltu yng Nghymru
Yn ddiweddar, enillodd Stills gytundeb i ddatblygu gwefan arbennig i Gymru ar ran yr elusen genedlaethol Gweithredu dros Blant . Bydd y wefan ddwyieithog yn targedu pobl yng Nghymru er mwyn codi ymwybyddiaeth ynglŷn â’r elusen a darparu gwybodaeth ranbarthol er mwyn helpu’r elusen i ymgysylltu’n fwy effeithiol â darpar gefnogwyr a noddwyr yn y dywysogaeth. darllen mwy


Broadstock

Lansio cadair newydd ar gyfer Broadstock
Mae Stills wedi cael eu penodi i lansio cadair newydd ddeniadol a ddyluniwyd ac a gynhyrchwyd gan Broadstock Furniture, cwmni sy’n gweithredu ym Macclesfield. Mae’r prosiect yn cynnwys enwi, brandio, hysbysebu a marchnata’r cynnyrch ac ymgyrch cysylltiadau cyhoeddus, yn ogystal â rheoli holl weithgareddau’r lansiad. I gyfateb â phenderfyniad y sefydliad i symud tuag at ymagwedd gynhyrchu sy’n fwy seiliedig ar ddylunio, mae Stills hefyd wedi ail-ddylunio hunaniaeth brand Broadstock. darllen mwy


Hayes Apartments

Ystafell Farchnata Stills yn rhoi llwyfan unigryw i Hayes Apartments
Mae ymgyrch farchnata arloesol gan Stills ar gyfer Hayes Apartments yng nghanol dinas Caerdydd wedi cael ei chynnwys ar restr am wobr nodedig. darllen mwy


Llyfrgell Caerdydd

Stills Design yn dylanwadu ar lyfrgell arloesol Caerdydd
Mae Stills wedi cael eu penodi i ddylunio’r arwyddion a’r podiau darllen mewnol yn adeilad newydd Llyfrgell Caerdydd. Yn ogystal â chomisiynu pum paentiad olew haniaethol, mae gwaith Stills i greu awyrgylch bywiog a deinamig hefyd yn cynnwys creu arwyddion tri dimensiwn trawiadol sydd nid yn unig yn Gymraeg ac yn Saesneg, ond hefyd mewn Braille. darllen mwy


Tŷ Hafan

Stills yn ailfrandio’r elusen Gymreig
Ar ôl cyflwyno cais cystadleuol, mae’n fraint gan Stills gael eu dewis i ailfrandio’r elusen Gymreig i blant, Tŷ Hafan. Mae Tŷ Hafan yn cynnig cysur, gofal a chefnogaeth i blant y mae eu salwch yn cyfyngu ar eu bywydau a’u teuluoedd, gan eu helpu i fanteisio i’r eithaf ar yr amser sydd ganddynt ar ôl gyda’i gilydd. Er sefydlu’r elusen 10 mlynedd yn ôl, mae’r sefydliad wedi datblygu’n sylweddol, sy’n golygu nad yw hunaniaeth wreiddiol y brand bellach yn gwir gynrychioli gwaith yr elusen na’i gwirfoddolwyr. darllen mwy


Morgan

Stills yn rhoi sglein ar frand Morgan
Mae Stills wedi cael eu dewis i ddatblygu arddull cyfathrebu newydd ar gyfer Morgan, y prif gyflenwr dodrefn yn sector lletygarwch y DU. Mae’r prosiect yn cynnwys perffeithio brand Morgan, yn ogystal â dylunio deunydd darllen, gwefan a hysbysebion newydd. darllen mwy


Archives Wales / Archifau Cymru

Stills yn sicrhau mynediad rhwydd i archifau Cymru
Mae Stills wedi cael eu dewis i ddylunio gwefan newydd ar ran Cyngor Archifau a Chofnodion Cymru. Bydd y wefan, a elwir yn Archives Wales/Archifau Cymru yn darparu cyfleuster chwilio ar-lein er mwyn gwella mynediad at archifau Cymru, a bydd yn ei gwneud hi’n haws canfod gwybodaeth am hanes Cymru. darllen mwy


Stop It Now!

Stills yn cefnogi Ymgyrch Stop It Now!
Bydd Stills yn darparu gwasanaeth ymgynghori a chefnogaeth strategol ar gyfer Stop It Now! (ymgyrch i atal plant rhag cael eu cam-drin yn rhywiol). Mae arbenigwyr marchnata cymdeithasol Stills wedi cael eu comisiynu i gynorthwyo drwy ddadansoddi ymchwil, llunio strategaeth a chreu fframwaith negeseuon ar gyfer yr ymgyrch, sy’n anelu i atal plant rhag cael eu cam-drin yn rhywiol drwy godi ymwybyddiaeth ac annog pobl i gydnabod y broblem ac ymateb iddi yn fuan. darllen mwy


Verco

Stills yn paratoi Verco ar gyfer lansiad
Yn ddiweddar, cafodd Stills eu penodi i lansio tri chynnyrch newydd ar ran Verco, un o brif wneuthurwyr dodrefn swyddfa Prydain. Yn rhan o’r lansiad bu’n rhaid enwi, hysbysebu, creu ymgyrch, dylunio deunydd darllen stondin arddangos i lansio’r cynnyrch yn arddangosfa Design Prima yn y Ganolfan Dylunio Busnes yn Llundain ym mis Mehefin. darllen mwy


Hands

Gwneuthurwr dodrefn yn ddiogel yn nwylo Stills
Mae Stills yn datblygu cyfres newydd o ddeunyddiau marchnata ar gyfer Hands - y gwneuthurwr dodrefn o High Wycombe. Dros y ganrif ddiwethaf, mae Hands wedi bod yn darparu dodrefn unigryw o ansawdd uchel i sefydliadau cyhoeddus a masnachol. darllen mwy


Rhys Davies

Stills yn helpu cwmni halio i symud ymlaen
Mae Stills wedi cael eu dewis i ddylunio gwefan newydd ar gyfer cwmni halio a logisteg Cymreig Rhys Davies. A chanddo rwydwaith cenedlaethol o ganolfannau gweithredu a 170 o gerbydau, Rhys Davies yw un o gwmnïau halio mwyaf y DU. Mae Stills yn gweithio gyda Rhys Davies i ailddylunio’u gwefan er mwyn rhoi adlewyrchiad cywirach o safle’r cwmni yn y farchnad. darllen mwy


Dewi Sant

Stills yn helpu Dewi Sant i adeiladu ar eu llwyddiant
Mae Dewi Sant yn ddatblygiad newydd cyffrous sydd ar ddod i Brifddinas Cymru. Pan fydd y datblygiad yn agor yn 2009. Bydd yn gwella’r cyfleusterau siopa a byw presennol yng Nghaerdydd. Mae Stills wrth eu bodd o gael eu dewis gan Dewi Sant i ddarparu cefnogaeth farchnata hanfodol er mwyn helpu i gyfleu manylion a phwysigrwydd y prosiect, a’r hyn y mae’n ei olygu i Gaerdydd, y gymuned leol a’r gymuned ehangach. darllen mwy