2011 yw degfed blwyddyn Ambiwlans Awyr Cymru ac mae’n bleser gennym ddweud ein bod wedi gweithio gyda’r elusen ers y dechrau. Credwch neu beidio, mae’r gwasanaeth wedi’i ariannu’n gyfan gwbl trwy garedigrwydd pobl yng Nghymru ac mae’r cyllid yma’n caniatáu i’r elusen redeg tri hofrennydd sy’n gallu cyrraedd unrhyw ardal o Gymru o fewn 20 munud – gwasanaeth hanfodol i bobl sy’n wynebu salwch neu anafiadau allai eu lladd.
Rydym wedi gweithio ar nifer o brosiectau gyda’r elusen, gan greu hunaniaeth weledol ar y cychwyn ar gyfer y brand ac, yn fwy diweddar, hunaniaeth ar gyfer ei ddegfed pen-blwydd. Roedd un ymgyrch fawr yn cynnwys yr Apêl £1 oedd yn gofyn i bawb yng Nghymru roi dim ond £1 i helpu i wella’r fflyd hofrenyddion. Mae’r gwaith arall wedi cynnwys taflenni newyddion, taflenni codi arian, baneri rholio a’r Adolygiad Blynyddol.