Drwy fod mewn busnes am bron i 30 mlynedd, mae’n golygu ein bod wedi casglu nifer fawr o gleientiaid, cyflenwyr, cydweithwyr a chyfeillion dros y blynyddoedd. Oes ffordd well o ddymuno Nadolig Llawen iddynt i gyd na thrwy greu cerdyn Nadolig gyda llaw?
Mae cynorthwywyr Siôn Corn, ar ffurf ein dylunydd Laura, wedi bod wrthi’n brysur yn plygu cannoedd o ddarnau o bapur i wneud y Siôn Corn origami sy’n addurno blaen ein cardiau Nadolig. Mae’r corachod eraill i gyd wedi bod yn clymu Siôn Corn wrth bob un o’r cardiau wrth ganu’n hapus braf.
Gobeithio’n fawr eich bod yn hoffi’r cardiau a gobeithiwn y cewch eich ysbrydoli i greu eich Siôn Corn origami eich hun gan ddefnyddio’r templed plygu. Yng ngeiriau hen ffefryn Nadoligaidd Shakin’ Stevens - ‘Merry Christmas Everyone!’ - Nadolig Llawen i Bawb!