Mae Canolfan Plant Serennu, Casnewydd yn ganolfan dydd i gleifion allanol y GIG i blant anabl rhwng 0 a 18 mlwydd oed. Adeiladwyd y ganolfan yn arbennig i ganiatáu i blant gydag anableddau cymhleth dderbyn triniaeth, gofal, gwybodaeth ac ymgynghoriad o dan un to, gan olygu nad oes angen teithio. Yn ogystal â helpu plant, bydd y ganolfan yn rhwydwaith cefnogi i´r uned deuluol gyfan, yn eu galluogi i gymdeithasu gyda´i gilydd gan fod ystod eang o gyfleusterau hamdden ar gael gan gynnwys ardal chwaraeon mewn cadair olwyn, pwll nofio a sinema.
Dyma brosiect sy´n llwyr unigryw yn y DU a´r cyntaf o´i fath. Cyfrannodd Ymddiriedolaeth y GIG Aneurin Bevan £4.5m i osod cyfarpar yng nghanolfan driniaeth y Plant i gwrdd â safonau arferol y GIG ac mae The Sparkle Appeal, (elusen o Dde Cymru) wedi codi £1.5m i´w gynyddu i lefel sy´n bwrpasol i anghenion plant anabl a´u teuluoedd.
I gychwyn, sefydlwyd ‘grŵp llywio’ o arbenigwyr i sicrhau bod dyluniad a gosodiad y ganolfan yn addas i bwrpas gan ystyried barn pob grŵp diddordeb. Cadeiriwyd y grŵp hwn gan Stills, ac arno roedd ffisiotherapyddion, therapyddion galwedigaethol, rhieni, prif gontractwyr a phenseiri. I gychwyn, bu´r ‘grŵp llywio’ yn gweithio ar yr enw a´r cysyniad ar gyfer yr adeilad a sut i integreiddio´r grwpiau defnyddwyr amrywiol. Datblygodd hyn wedyn i gynlluniau lliwiau, dodrefnu ac arwyddion.
Yn ogystal â rheoli´r dylunio mewnol, y cynllun lliwiau a dodrefnu´r ardaloedd cyhoeddus, gwnaeth Stills ymgymryd â´r gwaith o frandio´r prosiect cyfan, o enwi´r ganolfan a´i holl ystafelloedd triniaeth a´r ardaloedd cefnogaeth, i ddyfeisio system trywydd a system arwyddion a ellir ei ddilyn drwy gyffyrddiad yn y ganolfan. Gwnaethom hefyd weithio´n agos gydag adran rheoli heintiau Ymddiriedolaeth y GIG Aneurin Bevan, cwmni ffabrig Aqua a chynhyrchwyr dodrefn arbenigol Connection i greu dodrefn oedd yn addas i anghenion y rhieni a´r plant anabl sy´n defnyddio´r ganolfan am y tymor hir.
Enwyd y ganolfan yn ‘Serennu’ sy´n clymu gydag arwyddair yr elusen Sparkle, ‘Helpu plant arbennig i ddisgleirio’. Sail thema´r ganolfan yw´r sêr a´r gofod, ac enwyd ystafelloedd triniaeth ar ôl cytserau. Datblygwyd yr arddull graffig i apelio ar draws pob oedran ac i gynnig lefelau gwahanol o brofiadau gwybyddol dros amser. Felly gallwch ymateb ar lefel eithaf plentynnaidd i gynrychiolaeth raffigol pob cytser ac ar yr un pryd, rydych yn dod i ddeall sut mae´r sêr yn ffurfio pob cytser, wrth hefyd lywio defnyddwyr o amgylch y ganolfan.