Post uniongyrchol

Er mwyn cynnal ymgyrch bost lwyddiannus, mae angen sicrhau ymagwedd strategol wedi’i chynllunio’n dda o’r dechrau hyd y diwedd. O ganfod data a’u rhannu i gategorïau, i lunio negeseuon, apêl ar riniog y drws a rheoli’r ymateb - bydd ein tîm profiadol yn ystyried pob agwedd ar yr ymgyrch.

Rydym wrth ein bodd yn meddwl am ddulliau cyffrous a diddorol o ymgysylltu â marchnadoedd ein cleientiaid, ac yn mwynhau cynnal ymgyrchoedd post uniongyrchol ar sail ymatebion sydd wedi’u targedu, yn ddylanwadol a chofiadwy.