Mae ‘na hen ddywediad “Nid wrth ei big y mae prynu cyffylog”, neu yn Saesneg “don’t judge a book by its cover”. Ond rydym ni i gyd yn euog o wneud hynny wrth edrych ar becynnau. Does dim dianc o’r ffaith bod prynwyr yn penderfynu beth i’w brynu’n seiliedig ar olwg yn unig, neu ar ba mor ddeniadol y mae eich cynnyrch yn ymddangos ar y silff.
Bydd ein hymagwedd dactegol tuag at ddylunio pecynnu nid yn unig yn eich helpu i ymgysylltu’n fwy llwyddiannus â’ch prynwyr targed, ond hefyd yn eich helpu i gyrraedd marchnadoedd newydd, creu hunaniaeth gryfach i’ch brand a chynyddu proffidioldeb.