Eich brand yw eich sefydliad.
Yn Stills rydym yn deall ystyr, goblygiadau a gwir fanteision brandio. O ddefnyddio brand yn effeithiol gall gael effaith gadarnhaol ddofn ar sefydliad, yn fewnol yn ogystal ag yn allanol. Gall brandio ychwanegu gwerth at brofiad y cwsmer ond hefyd fod yn gyfrwng i ymgysylltu â phob rhanddeiliad. Yn ddelfrydol, dylai pob aelod o sefydliad hyrwyddo’r brand a dylai pob pwynt cyswllt a dull o gyfathrebu gyfleu negeseuon allweddol y brand.
Yn Stills ein prif flaenoriaeth yw deall eich sefydliad, eich marchnad a’ch cwsmeriaid, fel bo modd i ni ddatblygu brand ac iddo ystyr a sefyllfa gref sydd wedi’i diffinio’n dda yn y farchnad o’i gymharu â’r cwmnïau sy’n cystadlu yn eich erbyn. Mae ein prosesau wedi’u mireinio i sicrhau gwerth drwy ddealltwriaeth a mewnwelediad ac, yn y pen draw, drwy ddarparu negeseuon brand pwerus.
Mae dylunio hunaniaeth brand yn rhan annatod o’r broses frandio. Dyna’r hyn y gall prynwyr berthnasu ag o, a hynny’n aml yn fwy nag unrhyw agwedd arall. Mae hunaniaeth brand yn gipolwg o’r hyn yr ydych yn ei gynrychioli fel sefydliad. Mae’n helpu cwsmeriaid i ddeall yr hyn sy’n gwneud eich cynnyrch neu wasanaeth yn unigryw a dymunol, ac yn eu helpu i wneud dewisiadau deallus mewn awyrgylch lle ceir, gan amlaf, ormod o ddewis.
Mae nifer o sefydliadau wedi cael ein prosesau ar gyfer datblygu hunaniaeth ac ieithwedd brand yn hynod effeithiol. Gallwn ni eich helpu chi hefyd.
I ddod i’n hadnabod yn well a thrafod sut y gallwn ychwanegu at werth eich brand chi, ffoniwch ni ar 029 2035 3940 neu anfonwch e-bost at bethan@stills.co.uk