Mae angen dull arall ar farchnata cymdeithasol
Mae angen dull arbennig iawn o ymgyrchu ar gyfer marchnata cymdeithasol. Tra bod ymgyrchoedd marchnata masnachol yn ceisio cynnig boddhad personol ar unwaith i’r unigolyn, ni fydd ymgyrch newid cymdeithasol yn aml yn cynnig unrhyw foddhad personol amlwg i’r unigolyn. Yr her gyntaf felly, yw pennu’r ffactorau cymhellol y mae eu hangen er mwyn i unigolyn ymddwyn yn y ffordd a ddymunir ac i ail-ddiffinio ‘boddhad’ fel cymhelliad llai concrit a mwy cymdeithasol.
Ein dull mewn unrhyw ymgyrch newid cymdeithasol neu ddiwylliannol yw i:
Rydym yn cydnabod bod yn rhaid i unrhyw ymgyrch sydd yn ceisio gorchfygu canfyddiadau ac ymddygiadau gweddol ddwys ddarganfod yr oslef gywir i siarad â’i gynulleidfa. Mae’n angenrheidiol ymwneud â’r gynulleidfa mewn ffordd sy’n creu ymddiried, sy’n teimlo’n gartrefol, ac yn osgoi dirgelwch yn y mater; yn cynnig datrysiadau eglur, nid dim ond her; yn ymwneud â gwahanol bersonolaethau, oedrannau a chefndiroedd; ac sydd yn symbylu newid mewn ymddygiad, nid dim ond newid mewn agwedd. Nid yw hon yn dasg hawdd, ond diolch i’n profiad a’n arbenigedd sylweddol, rydym yn gyson yn cynnig datrysiadau sydd yn ticio pob blwch.
Os hoffech chi ddod i’n hadnabod ni’n well a thrafod sut y gallwn ychwanegu gwerth i’ch brand, ffoniwch ni ar 029 2035 3940 neu anfonwch e-bost at bethan@stills.co.uk