Llyfrgell Caerdydd

Agorwyd llyfrgell newydd Caerdydd ym mis Mawrth 2009. Yn ogystal â chomisiynu pum paentiad olew enfawr mewn arddull haniaethol, roedd ein gwaith i greu awyrgylch lliwgar a deinamig hefyd yn cynnwys creu arwyddion tri dimensiwn trawiadol sy’n ymddangos nid yn unig yn Gymraeg ac yn Saesneg, ond hefyd mewn Braille. Mae i’r darluniau graffeg mawr a natur amlwg y paneli oren chwe throedfedd ran allweddol wrth sefydlu naws yr adeilad. Maent hefyd yn creu canolbwynt trawiadol a chyson i ddyluniad y tu mewn i’r adeilad.

Gwaith
Dylunio a gosod arwyddion mewnol ac allanol, paentiadau olew haniaethol, gwydr addurnol.