Hysbysebu

Yr ymgyrchoedd hysbysebu mwyaf llwyddiannus yw’r rhai hynny sydd wedi’u targedu’n fanwl, eu cynllunio’n dda, eu hintegreiddio a’u gwneud yn gofiadwy.

Mae’n golygu diffinio’ch cynulleidfa darged, perffeithio’r union beth yr ydych am ei ddweud wrthynt, sut yr hoffech iddynt ymateb, sut yr hoffech iddynt deimlo, yr emosiwn yr hoffech chi ei sbarduno – ac yna dylunio ymgyrch sy’n cyflawni hynny. Rydym yn canolbwyntio’n hymagwedd yn fanwl, p’un ai a yw’r strategaeth yn cynnwys y teledu, y radio, y wasg, cyfryngau amgylchynol neu awyr agored, ein blaenoriaeth yw sicrhau’r canlyniadau yr ydych chi eu heisiau, drwy ddefnyddio’r dulliau mwyaf cost-effeithiol.