Mae ein hymagwedd tuag at frandio yn cynnwys llawer mwy na’r logo yn unig. Bydd ein proses unigryw o lunio Glasbrint Brand yn helpu i ddiffinio’r hyn yr ydych yn ei gynrychioli fel sefydliad er mwyn i’ch hunaniaeth weledol adlewyrchu gwerthoedd eich brand. Bydd hefyd yn eich helpu i sicrhau mantais wrth gystadlu drwy fod yn wahanol yn eich marchnad.
Rydym yn datblygu brandiau sydd nid yn unig yn creu argraff weledol, ond y mae iddynt hefyd bwrpas strategol fel bod ystyr ac arwyddocâd i’ch brand ym mhob agwedd ar eich busnes.