Hayes Apartments

Agor Rhandy Arddangos yr Ystafell Farchnata

Cipolwg ar agoriad y rhandy arddangos deniadol yn Ystafell Farchnata Hayes Apartments.

Aethom ati i ddyfeisio thema parti gardd soffistigedig ar gyfer yr achlysur. Cyn y digwyddiad  roeddem wrthi’n creu bwndeli o falŵns ac yn clymu rhubanau, yn addurno potiau planhigion, yn bwcio modelau prydferth a phedwarawd llinynnol gwych - ac yn rholio astroturf o flaen y fynedfa.

Roedd yn ddigwyddiad pleserus ac roeddem yn falch o fod yno i weld sut oedd ein gwaith ar gyfer y ffotograffiaeth, y deunyddiau marchnata a’r dyluniad mewnol yn cydblethu â’i gilydd.

Ewch i weld Ystafell Farchnata orffenedig Hayes Apartments