Hayes Apartments

Mae Hayes Apartments wedi gosod safon newydd mewn byw’n foethus yng nghanol Caerdydd. Mae’r stiwdio, sy’n gartrefi un a dwy ystafell wely, wedi’u llunio i’r cleient craff fel bod thema foethus yn rhedeg drwy’r ymgyrch gyfan.

Aethom ati i lunio’r ystafelloedd marchnata gwreiddiol ar Heol Eglwys Fair, gan lunio a hongian papur wal sydd wedi’i greu o gyfres o ffotograffau a dynnwyd ar gyfer yr ymgyrch. Gyda chymorth arbenigwr lleol y comisiynwyd dodrefn pwrpasol ganddo, cafodd yr ystafelloedd naws goeth ac roedd ein llyfrynnau gwybodaeth moethus yn rhoi cipolwg i’r gynulleidfa darged ar y profiad o fyw yn y fflatiau hyn.

Penderfynwyd y dylid cynnal parti gardd i agor fflat arddangos Hayes er mwyn tynnu sylw at y gerddi cwrt a ganfuwyd yn y fflatiau sy’n unigryw i’r ddinas. Aethom ati i droi’r lansiad yn ddigwyddiad hynod Brydeinig drwy osod glaswellt a phlanhigion yn Heol Eglwys Fair  a serenadu’r gwesteion gyda phedwarawd llinynnol. Rhagor am lansiad Hayes Apartment.

Am fod Dewi Sant yn agored erbyn hyn, mae’r ystafelloedd marchnata wedi symud i ail lawr y ganolfan lle mae natur gain y fflatiau’n parhau yn yr addurniad a ddewiswyd yn arbennig. Mae’r lle marchnata mewn uned siop dros dro ac mae wedi’i lunio i fod yn symudol heb amharu ar y dyluniad.

Er mwyn parhau i dynnu sylw pobl at y fflatiau, aethom ati i ddatblygu ymgyrch hysbysebu gyda sesiwn dynnu lluniau steilus i ddangos sut brofiad yw byw ynddynt. Aethom ati i drefnu’r sesiwn gyfan, gan gynnwys canfod y modelau, dewis y ffotograffydd a chyfarwyddo elfennau celfyddydol y sesiwn. Cewch weld y digwyddiadau yn y cefndir yn ystod y sesiwn dynnu lluniau.

Hoffem ddiolch yn fawr i adwerthwyr Canolfan Dewi Sant oedd mor barod i fenthyg gwahanol eitemau i ni, yn cynnwys wats Cartier, ar gyfer y sesiwn dynnu lluniau. Dangoswyd yr ymgyrch hysbysebu yn y cyfryngau lleol a chenedlaethol, gan gynnwys byrddau biliau a ddewiswyd yn strategol, Grazia a’r Metro.