Connection

Mae Connection yn gwmni sy’n cynhyrchu seddi ar gontract, gan gynllunio a chynhyrchu cadeiriau gwaith, ymlacio a meddal i farchnadoedd ym Mhrydain ac yn rhyngwladol. Daeth Connection atom yn y lle cyntaf i ofyn i ni eu helpu i roi cyfeiriad strategol newydd i’w busnes. Yn dilyn ymgynghoriad, aethom ati i gynhyrchu Glasbrint Brand i’r cwmni oedd yn darparu’r wybodaeth ar gyfer adnewyddu brand Connection.

Crëwyd hunaniaeth weledol newydd i gyfleu gwerthoedd brand Connection a chafodd hon ei chyfleu drwy bob dull cyfathrebu. Mae gwefan newydd Connection yn adnodd ar-lein gwerthfawr a diddorol sy’n cynnwys y Wal Hwyliau - lle rhyngweithiol sy’n gadael i’r defnyddiwr gyfuno a chwarae gyda’r cynhyrchion y mae wedi’u dewis. Gallent chwyddo a throi’r cynhyrchion yma i wahanol onglau a newid y graffeg wal a’r llawr i greu mannau o’u dewis eu hunain; yna gallent lawrlwytho lluniau o’r lle maent wedi’i greu.

Datblygwyd darnau amrywiol o waith mewn pryd i lansio cynnyrch newydd, Hive, ar gyfer Wythnos Dylunio Clerkenwell, yr ŵyl flynyddol sy’n dathlu’r holl ddisgyblaethau dylunio. Mae Hive yn system o seddi a ddatblygwyd ar gyfer mannau ymgasglu cymdeithasol sy’n cyfuno dodrefn a thechnoleg er mwyn cynyddu cynhyrchiant. Ymysg y defnyddiau lansio ar gyfer Hive roedd taflen wybodaeth foethus ac animeiddiad symudol fframiau llonydd sy’n dangos sut y gellir trefnu’r dodrefn. Edrychwch ar yr animeiddiad symudol yn y fan yma. Buom hefyd yn cefnogi Connection yn Orgatec, y ffair Ewropeaidd lle gallwch weld gwaith cwmnïau rhyngwladol sy’n cynhyrchu dodrefn drwy gontract. Gwnaethom hyn drwy greu stondin pwrpasol iddynt ar gyfer yr arddangosfa.

Ymysg y gefnogaeth arall a gafodd Connection gennym mae llyfryn cynhyrchion corfforaethol, cyfres o hysbysebion i’r wasg a chyfres o rendradau hynod eglur sy’n cynnwys lluniau o gynhyrchion yn annibynnol a’u lluniau o fewn ystafelloedd.