Bwrdd yr Iaith Cymraeg

Y Briff
Teimlai’r Bwrdd fod eu logo’n rhy draddodiadol a difflach, ac nad oedd yn cyfleu rhyw lawer ynglŷn â’u gwaith. Roedd ar y sefydliad hefyd angen hunaniaeth weledol i ddenu sylw a chodi ymwybyddiaeth - un a fyddai’n hyrwyddo Cymru ddwyieithog yn effeithiol mewn cyfryngau uwch y llinell (ATL) a dan y llinell (BTL) fel ei gilydd. Gan ei bod hi’n orfodol i fyfyrwyr yng Nghymru astudio Cymraeg hyd at lefel TGAU, roedd y Bwrdd yn arbennig o awyddus i dargedu’r gynulleidfa honno gyda brand newydd sbon er mwyn iddynt barhau â’r diddordeb mewn siarad Cymraeg wrth iddynt aeddfedu.

Roedd angen i hunaniaeth weledol brand Bwrdd yr Iaith fod yn nodedig ac yn ddigon hyblyg i weithio mewn ystod o gymwysiadau, gan gynnwys hysbysebu ar gludiant, marchnata uniongyrchol, print a’r we. Roedd yn rhaid iddi ragori ar ddulliau cyfathrebu a brandiau sy’n gysylltiedig â’r llywodraeth, y mae’r mwyafrif ohonynt yn ddiawen a difflach. Yn bennaf oll, roedd angen i’r brand gyfleu’r cysyniad o ddwyieithrwydd mewn modd eglur a chryno.

Ymagwedd Stills
Defnyddiwyd ein methodoleg ‘glasbrint brand’ i ddiffinio’r gwerthoedd brand, a lleoli a pharatoi dyluniadau, a fyddai’n amlwg yn cyflawni amcanion allweddol y Bwrdd.

Er mwyn i’n datrysiadau fod yn seiliedig ar realiti, dechreuwyd drwy ymchwilio i sylwadau unigolion oddi mewn i’r Bwrdd a rhai sy’n ffurfio barn allanol, e.e. unigolion ar lefel uwch yn y cyfryngau, sectorau cyhoeddus a’r gymuned fusnes. Roedd ein holiadur yn anelu i ganfod:

  • Lefel eu hymwybyddiaeth o Fwrdd yr Iaith Gymraeg a’i waith
  • A fyddai’n well ganddynt hyrwyddo dwyieithrwydd ynteu siarad Cymraeg
  • Barn ynglŷn â’r hen logo a’r canfyddiadau ynglŷn â’r Bwrdd ei hun
  • Cysylltiadau negyddol a chadarnhaol â Bwrdd yr Iaith Gymraeg


Datrysiad

Cafodd y syniad o iaith lafar ei ymgorffori drwy ddefnyddio dyfynodau sengl fel prif elfen y dyluniad. Gellid cymhwyso’r rhain, er enghraifft yn y logo, fel siapiau solet sy’n gorgyffwrdd â’i gilydd yn driawd o liwiau cynnes a oedd yn llachar ond yn cydweddu â’i gilydd - gwin, oren llosg a melyn. Ond gellid hefyd eu defnyddio ochr wrth ochr ag amlinell du neu ‘swigod siarad’ a fyddai’n cynnwys ymadroddion byr Cymraeg a Saesneg. Byddai hyn yn amlwg yn apelio i gynulleidfa ifanc ddeallus.

Mae enw’r Bwrdd yn ymddangos mewn llythrennau bras syml, arddull sans serif; mae parhad yr enw Cymraeg i’r enw Saesneg, heb ddefnyddio llinell newydd, yn cyfleu’r cysyniad o ddwyieithrwydd.

Canlyniadau
Yn y pôl ar antur a gynhaliwyd gan Stills, canfuwyd bwlch mawr rhwng canfyddiad y Bwrdd ohono’i hun a’r ffordd y mae’r sector cyhoeddus, busnesau ac unigolion yn gweld y Bwrdd. Mae ein brandio newydd, sy’n greiddiol i strategaeth farchnata barhaus a chadarn y Bwrdd, yn pontio’r bwlch hwn drwy godi ymwybyddiaeth o waith y Bwrdd i gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg mewn Cymru ddwyieithog.