Brandio mewnol

Mae eich amgylchedd busnes yn siarad cyfrolau ynglŷn â phwy yr ydych chi a’r hyn yr ydych yn ei gynrychioli fel busnes, ac yn effeithio’n aruthrol ar eich ymgysylltiad â chleientiaid a chyflogeion fel ei gilydd.

Credwn felly bod yr amgylchedd hwnnw’n haeddu yr un sylw ac ystyriaeth ag unrhyw ddull arall o gyfathrebu. Mae ein hymagwedd unigryw tuag at frandio mewnol yn sicrhau bod y tu mewn i’ch adeiladau wedi’u dylunio i’r safon uchaf gyda’r elfen annatod o “waw ffactor”. Yn ogystal â hyn, mae ein hymagwedd strategol yn golygu y bydd yr amgylchedd yn cyfleu’r negeseuon cywir ynglŷn â’ch brand.