Yr hyn rydym ni´n ei wneud



Brandio Dyluniad

Dylai cynllun da weithio´n galed i gyfathrebu negeseuon eich brand a chysylltu´n syth gyda´ch cynulleidfaoedd targed. Ac o sôn am weithio´n galed, mae digonedd o eli penelin gennym ni.

Dydy creu hunaniaeth weledol ddim yn golygu mai dim ond llunio logo hardd a wnawn i chi – mae hynny´n digwydd beth bynnag. Mae ein dull strategol o weithio´n golygu y byddwn yn creu hunaniaeth brand sy´n cynrychioli yn union pwy ydych chi fel busnes fel ei bod yn erfyn gwerthfawr i´ch helpu i gyflawni targedau eich busnes. A byddwn yn gwau´r hunaniaeth brand yma drwy bob un o´ch cyfathrebiadau, o´ch defnydd gwybodaeth i werthu a marchnata i´ch ymgyrchoedd a´ch hysbysebion, defnyddiau pecynnu a stondinau arddangos.

  • Cynllun y Logo
  • Hunaniaeth Weledol
  • Llyfrynnau a Defnyddiau Gwybodaeth
  • Defnyddiau Hysbysebu
  • Defnyddiau Pecynnu
  • Post Uniongyrchol ac e-Bost Uniongyrchol
  • Cylchgronau
  • Adroddiadau Corfforaethol
  • Stondinau Arddangos
  • Rheoli Gwaith Printiedig a Chynhyrchu
  • Hysbysebu