Mewn cymuned fusnes fyd-eang sy´n mynd yn llai bob dydd, mae angen i ragor o fusnesau gyfathrebu mewn nifer o ieithoedd. Yma yng Nghymru, mae´r iaith Gymraeg ar waith yn ehangach nag y bu erioed, gan olygu bod mwy o angen i fusnesau gyfathrebu´n ddwyieithog. Ond mae cyfathrebu dwyieithog yn mynd y tu hwnt i´r cyfieithu. Wrth sôn am elfennau cynnil a naws negeseuon marchnata, mae´n fwy tebygol nag erioed y bydd y neges yn colli ystyr wrth gael ei chyfieithu, felly mae´n hanfodol nad yw´r ail iaith yn elfen a gaiff ei chofio ar y funud olaf.
Drwy sicrhau bod siaradwyr brodorol yr iaith yn chwarae rhan yn y broses o ddatblygu´r negeseuon o´r cychwyn un, rydym yn sicrhau fod pob neges yn cadw ei hergyd gydol y broses. Wrth sôn am gynllun dwyieithog, rydym yn deall y sialens ac yn gwybod beth i´w wneud a beth i beidio´i wneud. Ac am ein bod wedi cwblhau miloedd o brosiectau dwyieithog, mae´n deg dweud ein bod yn deall ein pethau.
Felly, dyna reswm arall y dylech siarad â ni. Anfonwch neges at kat@stills.co.uk neu ffoniwch ni ar 029 2035 3940.