Yr hyn rydym ni´n ei wneud



Brandio Digidol

Byddwn yn gwneud pethau´n hawdd i chi. Dim ots a ydych eisiau System Reoli Cynnwys sy´n hollol unigryw i chi fel eich bod yn gallu diweddaru eich gwefan, neu raglen e-gyfathrebu sydd wedi´i theilwra´n arbennig i chi, neu efallai mai dim ond galw draw rydych am ei wneud i gael un o´n bisgedi blasus a chael sgwrs am flogio, byddwn yn gweithio gyda chi i sicrhau fod popeth a gynigiwch ar-lein yn cyfateb â´ch brand. Wedi´r cwbl, dyna yw ein pwrpas.

Ystyriwch eich gwefan, er enghraifft; dyma´r tro cyntaf y bydd pobl yn dod ar draws eich brand yn aml iawn. Mae pob un ohonom yn gwybod mor bwysig yw´r argraff gyntaf, felly byddwn yn llunio gwefannau sy´n creu´r profiad mwyaf positif bosib, sy´n adlewyrchu eich hunaniaeth brand ac yn cyfathrebu eich negeseuon brand allweddol. Ac yn bwysicach na dim, mae saernïaeth gref ein system wybodaeth yn sicrhau bod defnyddwyr yn dod o hyd i´r wybodaeth y maent yn chwilio amdani´n gyflym ac yn hawdd. Y canlyniad? Bydd defnyddwyr eich gwefan yn teimlo´n hyderus a phositif am eich busnes ac yn fodlon eu bod wedi derbyn yr wybodaeth angenrheidiol. A hyn oll cyn iddynt eich cyfarfod hyd yn oed.

  • Gwefan
            Dadansoddi Gwefan
            Dylunio Gwefan
            Adeiladu Gwefan
            Cynnal a Chefnogi
            Gwneud y Defnydd Gorau o´r Peiriant Chwilio
  • System Rheoli Cynnwys
            Yn gweithio´n dda â Pheiriannau Chwilio
            Integreiddio Pwrpasol
            Rheolwr Taflenni Newyddion
            Rheolwr Byrddau Negeseuon
            Rheolwr Ieithoedd Amrywiol
            Rheolwr Arddulliau
            E-fasnach
            Llwytho Data Crynswth
            Rheolwr Canlyniadau Ffurflenni
            Golygydd Cynnwys WYSIWYG
            EDRMS (System Rheoli Cofnodion a Dogfennau Electronig)
  • Hysbysebu ar faneri
  • e-daflenni newyddion
  • Llyfrau Electronig
  • Marchnata ar SMS
  • Cymwysiadau ffôn symudol
  • Cyflwyniadau Amlgyfrwng