Barn eraill


"Os mai hirhoedledd sy’n profi hapusrwydd mewn busnes, yn yr un modd â phriodas, mae ein perthynas 15 mlynedd o hyd â Stills yn awgrymu bod popeth yn ardderchog! Fel tîm, maent wedi meithrin dealltwriaeth dda iawn o’n gofynion busnes a phob amser wedi ceisio sicrhau cydbwysedd rhwng meddwl yn greadigol a’n dymuniad i ganfod datrysiadau ymarferol. Maen nhw’n barod i ddadlau â ni dros yr hyn sydd orau yn eu barn hwy. Yn ogystal â’u gallu technegol, maen nhw hefyd yn griw braf i weithio gyda nhw." Jonathan Smith
Cyfarwyddwr Datblygu’r Busnes, Castleoak Care Homes

Ewch i weld sut rydym wedi helpu Castleoak


“Mae Stills wedi gweithio’n agos gyda Tŷ Hafan i ddatblygu’n brand newydd. Ni fu’r dasg honno’n hawdd, ond roedd gan Stills gymwyseddau unigryw i’w chyflawni. Roedden nhw’n rhannu’r un gred â ninnau y dylai ein brand adlewyrchu gwerthoedd ein brand, a’r dasg gyntaf oedd canfod y gwerthoedd brand hynny drwy ymchwilio i’r farchnad, a chytuno ar lasbrint o’r brand. Yna, fe aeth Stills ati i greu brand sydd wedi cael ei gymeradwyo’n eang, ac rydym yn hynod falch ohono. Parhaodd Stills i gymryd rhan yn y broses drwy osod canllawiau gweithredu, brand ac ieithwedd pellach, i sicrhau darpariaeth gyson. Roeddem wrth ein bodd gyda phenderfynolrwydd Stills i’n deall ni, ac yn wir i’n helpu ni i’n deall ein hunain. Roedd yr ymroddiad hwn ynghyd â phroffesiynolrwydd y cwmni’n fodd i sicrhau canlyniad cadarnhaol iawn.” Elizabeth Read FSI MCIM MBA
Cyfarwyddwr Codi Arian a Marchnata, Tŷ Hafan

Ewch i weld mwy o’n gwaith ar hunaniaeth
Ewch i wefan Tŷ Hafan


“Mae ansawdd gwaith creadigol Stills yn ffactor allweddol, ond yr hyn sy’n wirioneddol amlwg yw eu hyblygrwydd, eu parodrwydd i ymateb, eu dibynadwyedd, eu gwybodaeth a’u cymwynasgarwch.” Catherine Evans
Rheolwr Marchnata, Canolfan Cydweithredol Cymru

Ewch i weld sut rydym wedi helpu Canolfan Cydweithredol Cymru


"Fel cwmni Gwyddelig, roedd ymgysylltu â’r gymuned o benseiri a dylunio graffeg yn Llundain wastad yn mynd i fod yn her. Mae’r datrysiadau a berffeithiwyd ac a dargedwyd yn fanwl gan Stills wedi’n galluogi i gyflawni’r nod hwnnw." Paul Farrell
Cyfarwyddwr Gweithredu, Farrell

Ewch i wefan Farrell
 


"Mae Stills yn dra gwahanol, ac yn bendant yn un o’r dylunwyr a’r cwmnïau gorau yr ydw i wedi dod ar eu traws. Roeddwn i’n teimlo bod Stills yn gwrando go iawn ar yr hyn yr oedd gen i i’w ddweud, ac yn ymroi i ymchwilio i wybodaeth bellach a oedd yn briodol er mwyn ail-frandio’n cwmni. Gallen nhw ddeall yr union beth yr oeddem ni’n chwilio amdano ac roedd ganddynt ddiddordeb yn yr hyn yr oedd gennym ni i’w ddweud. Cawsom wasanaeth rhagorol a phroffesiynol." Penny Chapman
Rheolwr Gyfarwyddwr, Educ8

Ewch i weld ein gwaith ar y we
Ewch i wefan Educ8
 


Boss
"I bob pwrpas, daeth Stills yn gwbl gyfrifol am ail-leoli ac ailfrandio Boss… datblygiad a arweiniodd at ddyblu ein trosiant o fewn blwyddyn." Marc Le Peltier
Cyfarwyddwr Masnachol, Boss



"Gan brofi eu gallu i gymhwyso’u creadigrwydd mewn sefyllfaoedd ymarferol, mae Stills wedi defnyddio’u doniau i ddatblygu ac addasu’n hunaniaeth weledol newydd i ddodrefnu’n 12 o ganolfannau arddangos hynod amrywiol, addurno’n fflyd o gerbydau danfon, hysbysebu, offer ysgrifennu, gwefan… a mwy. Bellach mae gennym hunaniaeth gorfforaethol ffres a chyfoes, a hyderwn y bydd hyn yn ganolog i’n cynlluniau uchelgeisiol i ehangu." Paula Morris
Rheolwr Marchnata, Sigma3

Ewch i weld sut rydym wedi helpu Sigma3