Rydym wedi bod yn gweithio’n ddiweddar ar arwyddion ar gyfer meysydd parcio newydd John Lewis a St David’s. Yr wythnos hon mae ein gwaith wedi dod yn fyw diolch i arlunwyr stensiliau hynod o amyneddgar a dawnus. Roedd y gwaith yn araf ac anodd oherwydd manylder rhai o elfennau’r brand, ond mae wedi talu ffordd o weld y canlyniadau!