Cawsom gyfle i ymweld ag arddangosfa deithiol yr Amgueddfa Ddylunio o waith gan Abram Games, un o ddylunwyr graffeg mwyaf yr ugeinfed ganrif. Cynhaliwyd yr arddangosfa yn Amgueddfa ac Oriel Gelf Casnewydd ac roedd yn cynnwys dyluniadau poster, brasluniau, dyluniadau cynnyrch, dyfeisiadau a chyfweliadau â’r dyluniwr.
Roedd Games yn credu’n gadarn mewn dylunio syml a negeseuon cryf. Hyd yn oed yn ystod y broses ddylunio, byddai’n hepgor ei ddyluniadau nes cael yr un perffaith a oedd yn cyfleu’r neges orau. Ac yntau’n byw mewn cyfnod cyn yr oes ddigidol, byddai Games yn gwneud yr holl waith â llaw, ac yn aml yn dylunio’r teip wyneb ei hun hyd yn oed.
Ni allwch ond edmygu brwdfrydedd cyffredinol Games dros ddylunio da – ehangodd ei arbenigedd i faes dylunio cynnyrch. Yn ôl un stori amdano, ysgrifennodd at wneuthurwyr peiriannau gwneud coffi i gwyno am ddyluniad aneffeithiol eu peiriannau. Ysgrifennodd y cwmni yn ôl ato yn cynnig y dylai ef ei hun ddylunio peiriant gwell os nad oedd yn fodlon â’r un dan sylw – ac felly dyna a wnaeth, a daeth beiriant Cona Coffee yn glasur yn y byd dylunio.